Yr Elusen - Send A Cow
Mae ‘Send a Cow’ yn elsuen Gristnogol sy’n rhoi cymorth i deuluoedd sydd â darnau bychan o dir i drawsnewid eu bywydau drwy ffermio cynaliadwy.
Cafodd yr elusen ei ddechrau yn 1988 gan ffermwyr o’r DU i roi cymorth i ffermwyr yn Uganda, ac mae eu gwaith yn adnewyddu’r balans rhwng pobl, da byw a’r amgylchedd, fel y gall cymunedau nid yn unig gwella eu tir a’u cnydau, ond hefyd eu amgylchedd ac ansawdd eu bywyd.
Bydd pob un a gaiff gymorth gan Send a Cow yn pasio cefnogaeth ymlaen i eraill yn y gymuned, a fydd yn gwneud yr un peth yn eu tro. Gall fod yn epil benywaidd cyntaf eu anifeiliaid, enillion y cynhaeaef neu rannu gwybodaeth wedi iddynt gael hyfforddiant.