Y Tîm

Gareth

Gareth ydi'r un galluog yn y tîm, a fo benderfynodd ymuno â Rali Affrica gyntaf. Daeth y gîc cyfrifiaduron 33 mlwydd oed ar draws safle wê yr Adventurists a meddwl yr hoffai drio un o'r ralïon sy'n cael eu trefnu ganddynt. Rhoddodd ei feddwl ar Rali Affrica wedyn aeth ati i chwilio am rywun a fyddai'n ddigon gwirion i ymuno â'i dîm.

Sian

Doedd dim angen dwyn llawer o berswâd ar Sian i ymuno â'r tim. A dweud y gwir, roedd hi wedi penderfyny mynd cyn i Gareth ofyn iddi hyd yn oed! Cyfarfu Sian a Gareth 21 o flynyddoedd yn ôl, pan oedden nhw yn yr un dosbarth yn Ysgol Uwchradd Glan Clwyd. Fe gollon nhw gysylltiad ar ôl ysgol, ond trwy wyrth y wê fe ddaethon yn ffrindiau yn 2009. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach roeddent yn fwy na dim ond ffrindiau, ac roedd Sian wedi ymuno â thîm Cymruloons.

Rene y Renault

Cafodd aelod pwysicaf y tîm ei brynu ar y 10fed o Hydref, gan ddyn hoffus yn Keighley, Swydd Efrog. Pasiodd y Renault 5 llwyd, 23 mlwydd oed ei MOT heb drwbwl, gan roi sioc ar yr ochr orau i Gareth a Sian ag sy'n gyrru o gwmpas â golwg hunanfodlon ar ei wyneb byth ers hynny.