Y Sialens
I yrru o Brydain i Cameroon mewn car 1 litr, gyriant llaw chwith...mewn 5 wythnos.
Rydym yn cymryd rhan yn ail Rali Affrica yr Adventurists. Yng Ngorffennaf 2008 cychwynodd 42 o dimau ar y Rali cyntaf, ond dim ond 28 gyrhaeddodd y llinell orffen mewn pryd ar gyfer y parti 6 wythnos yn ddiweddarach, gan godi £75000 yn y broses.
Mae'r rali yn digwydd dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd y tro yma, ac mae ganddon ni 5 wythnos i fynd o Dunsfold Park, sydd i'r de o Guildford (trac sy'n cael ei ddefnyddio ar Top Gear), i Limbé yn Cameroon, mewn pryd ar gyfer y parti at y 16eg o Ionawr.
Ein trafnidiaeth ar gyfer y siwrne yw Renault 5 Ffrengig 23 mlwydd oed (o'r enw Rene), a gaiff ei werthu mewn ocsiwn ar ddiwedd y rali i godi mwy o bres ar gyfer elusennau.
Rydym yn bwriadu mynd ar hyd yr arfordir trwy Morocco, Mauritania a Senegal cyn belled â'r Gambia, cyn anelu tuag at y Dwyrain i mewn i Mali a Burkina Faso. Ymlaen wedyn yn ôl at yr arfordir eto yn Ghana, a'i ddilyn trwy Togo a Benin i Nigeria cyn cyrraedd Cameroon.
Bydd y rhai craff yn eich plith wedi sylwi erbyn hyn bod gwendid yn y cynllun - unwaith i'r car gael ei werthu, fe fyddwn heb drafnidiaeth yn Cameroon. Yn ffodus, diolch i'r gallu i hedfan, bydd Air Afrique yn dod a ni'n ôl i Lundain drwy Tripoli.
Os gyrhaeddwn ni Cameroon.